Taith Côr Crymych a’r Cylch Iwerddon Hydref 2012
Côr Crymych a’r Cylch, Enillwyr yn Eisteddfod Gwyl Fawr Aberteifi 2013
Arweinydd Côr Crymych, Angharad Thomas yn derbyn cwpan Côr yr Wyl 2013 oddi wrth y beirniaid, Delyth Medi a Huw Tregelles Williams
Côr Crymych a'r Cylch yn fuddigol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2013
© Lluniau Llwyfan
Côr Crymych a'r Cylch yn fuddigol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2013
Angharad Thomas a Rhian Davies yn dathlu yn dilyn llwyddiant Côr Crymych a’r Cylch yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni
Côr cymysg o tua 45 o gantorion yw’r aelodau sy’n cwrdd yn wythnosol yn Theatr y Gromlech, Crymych. Mae’r aelodau yn teithio o ardaloedd yng ngogledd Sir Benfro a de Cheredigion sy’n gyfrifol am y geiriau ‘a’r cylch’ sy’n dilyn yr enw.
Mae gan y côr repertoire eang ac yn y gorffennol wedi perfformio nifer o weithiau cerddorol, o’r clasurol i nifer o weithiau Cymraeg cyfoes.
Maent wedi cystadlu yn gyson mewn Eisteddfodau, yn lleol ac y genedlaethol ac yn canu hefyd mewn cyngherddau sydd, gan amlaf, yn codi arian i elusennau.
Mae gan y côr ddau CD ac maent dros y blynyddoedd wedi teithio i ganu yn Llydaw, Iwerddon a’r Alban.
Arweinydd bywiog y côr yw Angharad Thomas a’r cyfeilydd abl yw Rhian Davies.
Ysgrifenyddes: Dafydd Dafis