Croeso i Wefan Crymych

Lleolir pentref prysur Crymych rhwng y Frenni Fawr a Foel Drygarn, 240 metr/800 troedfedd uwchben y môr. Ystyrir y pentref yn ganolfan ddiwylliannol, addysgol a masnachol i’r pentrefi cyfagos. Mae Mynyddoedd y Preselau oddi amgylch yn gyforiog o chwedlau ac yn ymhwedd y sawl sydd 'i fryd ar gerdded. Pentref Crymych yw tarddle afonydd Taf a Nyfer a blaenddyfroedd Cleddau Ddu.