Theatr y Gromlech

Cyfarpar diweddaraf!

 

Mae gosod cyfarpar diweddaraf yn Theatr y Gromlech yn golygu bod gweld ffilm yno bellach yn brofiad....

 

 

Taflunydd Newydd! Sain Newydd!

 

Mae'r taflunydd CINEMECCANICA gyda'i lamp Xenon 1600 watt yn sicrhau lluniau o'r un ansawdd a geir yn dinasoedd mawr, gyda thechnoleg clywelod o'r radd flaenaf yn creu sain bur a chyfoethog. Yn naturiol, roedd angen system sain i fanteisio ar hyn; felly penderfynwyd i fynd amdani gan fuddsoddi mewn system sain ddigidol Dolby amgylchynol.

 

 

 

Felly...dewch i weld!

 

Rydym eisoes wedi bwcio rhai o'r ffilmiau mawr ar gyfer y Nadolig a'r flwyddyn newydd: Harry Potter, Dirgelwch yr Ogof, Lord of the Rings - felly, dyma wahoddiad cynnes i chi fwynhau awyrgylch gartrefol y Theatr. Ymlaciwch yn y seddau cyffyrddus a mwynhewch i'r eithaf safon y llun a'r sain trwy gyfrwng y cyfarpar newydd.